Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd,
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Ionawr 2025
Amser:
13.30 -
15.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14794
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Adam Price AS |
|
Tystion: |
Ruth Fox, Cymdeithas Hansard Adam Tucker, Prifysgol Lerpwl |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Natasha Asghar AS.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ruth Fox o Gymdeithas Hansard a Dr Adam Tucker o Brifysgol Lerpwl, mewn perthynas â’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y llythyr yr oedd wedi’i anfon at Garchar EF y Parc.
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Dr Ruth Fox a Dr Adam Tucker.
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Rhentwyr a chytunodd i drafod drafft pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar nifer o Gytundebau Rhyngwladol, cytunodd ar gamau gweithredu ar gyfer dau o’r Cytundebau, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor y Cytundeb Gwlad Letyol rhwng Sefydliad Coedwigoedd Ewrop a’r DU, a’r ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Nododd y Pwyllgor y Protocol i’r Cytundeb Interbus ynghylch cludo teithwyr yn rhyngwladol ar goetsys a bysiau, a chytunodd y Pwyllgor i hysbysu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am y Cytundeb a’r ddeddfwriaeth i’w weithredu.
Nododd y Pwyllgor ddiwygiadau i’r Cytundeb sy’n sefydlu Cronfa Ddatblygu Affrica, a chytunodd i hysbysu’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol am y Cytundeb.
Nododd y Pwyllgor hefyd y Cytundebau a ganlyn:
- Cytundeb rhwng y DU a Mauritius ynghylch Ynysoedd Chagos;
- Pedwar Cytundeb terfynu unigol rhwng y DU a’r Weriniaeth Tsiec, Lithwania, Slofenia a Croatia ar Hybu a Diogelu Buddsoddiadau;
- Cytundebau Gwasanaethau Awyr (rhwng y DU a Gwlad Thai, y DU a Brasil, y DU a Mongolia, y DU a Moldofa, a’r DU a Tajikistan).
Nododd y Pwyllgor yDatganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r Adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a chytunodd i ddarparu ymateb i’r adolygiad.